Lisarb Energy yn lansio consortiwm byd-eang i dargedu’r farchnad ynni gwynt ar y môr

Bydd profiad dwys o’r gadwyn gyflenwi ac arloesi technegol yn ysgogi gwerth yn y sector 1 terawat

Mae Lisarb Energy, datblygwr ynni adnewyddadwy byd-eang sy’n tyfu’n gyflym, yn cyhoeddi lansiad Lisarb Offshore Limited; partneriaeth rhwng Lisarb Energy Group Limited, Prosperity Energy Limited a chonsortiwm o borthladdoedd, gwneuthurwyr, gweithgynhyrchwyr ac ymgynghorwyr byd-eang blaenllaw.

Mae gan Lisarb Offshore gyfuniad unigryw o brofiad ym maes cyllido ynni adnewyddadwy a darparu prosiectau i biblinell gymwys o gyfleoedd ar y môr ledled Ewrop a De America – gan ganolbwyntio’n benodol ar ardaloedd â thrwydded ynni gwynt arnofiol newydd, fel Môr Celtaidd y Deyrnas Unedig, Môr y Gogledd ac arfordir Brasil.

Mae’r bartneriaeth wedi ei seilio ar bortffolio 4.6 GW Lisarb o fwy nag 80 o brosiectau solar a gwynt ar y tir ar draws America Ladin a Phenrhyn Iberia; wedi ei ategu gan sylfaen fuddsoddwyr ffyddlon o'r radd flaenaf a Chytundebau Prynu Pŵer hirdymor gyda brandiau byd-eang blaenllaw.

Mae Prosperity Energy yn ychwanegu tîm rheoli cryf sydd â phrofiad helaeth o gyflawni prosiectau ynni gwynt, solar, llanw a hydrogen o fri ar y môr – gan gynnwys rowndiau prydlesu cystadleuol, datblygu cadwyn gyflenwi, gosod a gweithredu.

Gyda’i gilydd, mae gan dîm amlddisgyblaethol Lisarb Offshore ddegawdau lawer o brofiad ar ôl gweithio ar brosiectau seilwaith mawr yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, gan gynnwys dros 30 o ffermydd gwynt ar y môr – sy’n cynhyrchu cyfanswm o dros 20 GW. Mae arbenigedd y tîm yn cwmpasu pob cam o gylch bywyd prosiect; dewis safle, datblygu, adeiladu a gweithredu, yn ogystal â phrofiad ymarferol o gaffael/ysgogi prosiectau gwynt ar y môr, paratoi ceisiadau llwyddiannus am les gystadleuol, a sicrhau Cytundebau Prynu Pŵer hirdymor.

Dywedodd Jamie MacDonald-Murray, Cadeirydd Lisarb Energy: “Mae model partneriaeth Lisarb Offshore yn darparu glasbrint sy’n canolbwyntio ar gyflawni i ategu’r gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy ar yr un pryd â rheoli costau a risg yn well. Gallwn gymhwyso’r glasbrint hwn i farchnadoedd ar y môr sefydlog a symudol sy’n datblygu er mwyn meithrin cadwyni cyflenwi cynhenid, darparu refeniw ar gyfer economïau rhanbarthol, a chyflawni’r agenda sero net – yn lleol ac yn fyd-eang.

“Bydd strategaeth ystwyth Lisarb Offshore, sy’n blaenoriaethu’r gadwyn gyflenwi, yr arbenigedd cynllunio a’r arloesi technegol yn gyrru costau i lawr ac yn cynyddu gwerth; gan gefnogi partneriaid ein consortiwm, ein gweithwyr a’n cymunedau – yn y Deyrnas Unedig, Brasil a thu hwnt.” Mae Lisarb Offshore eisoes wedi ymuno ag amrywiaeth eang o bartneriaid consortiwm, gan ddarparu mynediad at gronfa adnoddau a sgiliau unigryw mewn prosiectau gwynt ar y môr byd-eang – yn sefydlog ac arnofiol. Mae’r rhain yn cynnwys Quantum Global Solutions (cynghorwyr cyfreithiol a masnachol), a’r Offshore Solutions Group (cymorth technegol ac ymarferol).

Mae Lisarb Offshore wedi creu llif o gyfleoedd yn y marchnadoedd allweddol a ganlyn:

• Brasil – gan gynnwys fferm wynt 2 GW ar y môr, fferm solar 2 GW, 19 GW ychwanegol o hawliau les ar wely'r môr a PPA cysylltiedig (trydan a hydrogen);

• Môr Celtaidd y Deyrnas Unedig – gan dargedu 1500 MW fel rhan o rownd brydlesu 2023, gyda’r cyfnod 300 MW cyntaf yn dechrau datblygu o 2023 ymlaen;

• Môr y Gogledd y Deyrnas Unedig – targedu tri phrosiect 100 MW yn y rhaglen INTOG, gyda’r rownd brydlesu yn agor yn haf 2022.

Meddai Jamie: “Er y bydd seilwaith gwynt ar y môr ar y lefel sefydlog yn dal i fod yn drech mewn sawl tiriogaeth, mae cynlluniau gwynt ar y môr sy’n arnofio yn rhyddhau llu o gyfleoedd newydd ac rwy’n hyderus bod gennym y strategaeth, y tîm a’r dechnoleg iawn i fod yn llwyddiannus ar draws y ddwy farchnad.”