Mae’r DU eisoes yn arweinydd byd-eang o ran ynni gwynt ar y môr, gyda mwy o gapasiti wedi’i osod nag unrhyw wlad arall. Mae bron pob fferm wynt sydd mewn defnydd ar hyn o bryd yn defnyddio tyrbinau wedi’u gosod ar wely’r môr. Mae’n ddull ymarferol mewn dyfnder dŵr o hyd at tua 30 metr; ond mae’n dechnegol heriol gosod tyrbinau sefydlog ar y môr mewn dyfnder o 50 metr neu fwy.
Drwy ddefnyddio llwyfannau gwynt ar y môr sy’n arnofio, gallwn fanteisio ar wynt cryfach mewn dyfroedd dyfnach. Amcangyfrifir bod 80% o’r holl adnoddau gwynt ar y môr mewn dyfroedd o 60 metr neu fwy ym moroedd Ewrop.
Mae Llywodraeth y DU wedi gosod uchelgais i sicrhau hyd at 5 GW o wynt arnofiol erbyn 2030, ac i ehangu’r capasiti yn gyflym wedi hynny.
Mae Ystad y Goron yn cynnig cyfleoedd lesio yn y Môr Celtaidd ar gyfer prosiectau gwynt arnofiol ar y môr 1 GW. Bydd y cyfle lesio hwn yn darparu llwyfan i sector gwynt arnofiol ar y môr y DU yn y dyfodol. Drwy ddangos llwyddiant yn y farchnad eginol hon, byddwn yn datgloi cyfleoedd ar gyfer swyddi a seilwaith ledled y DU, ac yn fyd-eang drwy allforio sgiliau a gwybodaeth ymarferol arbennig.
Mae cyflenwi ynni gwynt alltraeth sy’n arnofio’n llwyddiannus, ar raddfa, yn golygu goresgyn llawer o heriau technegol. Mae yna etifeddiaeth enwol mewn gwynt arnofiol felly mae’n rhaid i ni ddyfeisio, addasu a mireinio technolegau sy’n gallu ateb y diben. Yn ein barn ni, y dull gorau yw ffurfio partneriaeth â busnesau sydd â hanes o lwyddo yn y meysydd sydd wedi’u nodi gennym fel rhai sy’n hanfodol ar gyfer llwyddo. Yn hollbwysig, rydyn ni’n gwneud hyn nawr, blynyddoedd o flaen llaw, er mwyn gallu rhannu’r arferion gorau yn ein gwaith ar y cyd.
Drwy ddilyn ein strategaeth ‘cadwyn gyflenwi yn gyntaf’, rydyn ni’n hyderus y byddwn yn cynnig atebion isel eu risg, y gellir eu tyfu, sy’n gallu dilyn llwybr lleihau costau.
Rydyn ni’n croesawu cynigion gan y cwmnïau hynny sy’n gweithredu yn y maes hwn ar hyn o bryd, neu’r rhai sy’n dymuno ymuno â’r farchnad. Cysylltwch yma a chadw llygad am newyddion ynghylch ein digwyddiadau cadwyn gyflenwi.
Cofrestrwch ymaRydyn ni’n llawn cyffro ynghylch sut gallwn helpu cymunedau lleol ar y tir i elwa ar brosiect Nuada.
Ein nod yw helpu i greu gwerth economaidd a chymdeithasol yn y rhanbarthau lle rydym yn gweithredu. Trwy ein buddsoddiadau byddwn yn creu swyddi newydd, yn darparu hyfforddiant sgiliau ac yn cefnogi partneriaid cadwyn gyflenwi rhanbarthol.
Mae Sefydliad Lisarb yn ariannu rhaglenni addysgiadol, iechyd a chymdeithasol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r cymunedau cyfagos i’n prosiectau. Mae enghreifftiau ym Mrasil yn cynnwys cartref plant amddifad, canolfan adnoddau teuluol ac elusen niwrolegol. Yn Ne Orllewin Lloegr rydym eisoes yn cefnogi canolfan hamdden, hyfforddiant tennis ieuenctid a gŵyl theatr flynyddol.
Rhagor o wybodaethGwnewch yn siŵr eich bod yn cael ein newyddion diweddaraf am Nuada